Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd
Defnyddio’r wefan hon

Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, dylai hyn olygu eich bod yn gallu gwneud y canlynol:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • Gwneud y llun yn fwy (hyd at 300%) heb i rannau o’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Mynd i’r mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Mynd i’r mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Defnyddio’r mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrîn

Rydyn ni wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosib i’w ddeall hefyd.

Mae cyngor gydag AbilityNet am sut i’w gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio eich dyfais os oes anabledd gyda chi.

(url for AbilityNet - https://mcmw.abilitynet.org.uk/)

Hygyrchedd y wefan hon

Mae hygyrchedd y wefan hon yn cael ei lywio gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (Web Content Accessibility Guidelines). Mae’r Canllawiau’n cael eu hystyried yn safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn ceisio gwneud y wefan yn hygyrch i’r holl ddefnyddwyr a chydymffurfio â safonau Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We i lefel ‘AA’, rydyn ni’n gweithio gyda’n rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cydymffurfio i lefel ‘A’ o leiaf.

Adrodd ar broblemau gyda hygyrchedd ar y wefan

Rydyn ni bob tro yn edrych am ffyrdd i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl ein bod ni ddim yn bodloni gofynion y canllawiau hygyrchedd, cysylltwch ag: imaging.academy@wales.nhs.uk. Gallwch gysylltu â ni trwy ffonio neu anfon llythyr hefyd.


Cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ar 15 Medi 2020. Cafodd y prawf ei wneud gan Hoffi Limited.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 18 Medi 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf 18 Medi 2020.