haptic machine training

Hyfforddi

Mae Rhaglen Hyfforddi Radiolegwyr Clinigol Cymru wedi ei achredu gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) ac mae’n darparu rhaglen hyfforddi strwythuredig dros bum mlynedd, sy’n arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT). Fel rhan o’r rhaglen darperir hyfforddiant strwythuredig ar gyfer cyflawni Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (FRCR).

Mae gan Gymru ddau gynllun ar wahân – un yn y gogledd ac un yn y de. Mae’r rhaglen wedi hen sefydlu ac mae’n cynnig addysgu a hyfforddi strwythuredig mewn nifer o Ysbytai Prifysgol ledled Cymru. Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus ac mae llwyddiant parhaol y rhai sy’n cyflawni Cymrodoriaethau Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, a chyflawniadau’r hyfforddeion yng Nghymru yn cadarnhau hynny.

Mae llawer o’r hyfforddeion yn ymsefydlu’n lleol a gwelwn hyn yn dystiolaeth gadarnhaol o ansawdd bywyd yng Nghymru a’r amgylchedd gwaith a gynigir. Yn sgil yr hyfforddiant gwych a ddarperir yng Nghymru gwelwn nifer fawr o’n hyfforddeion yn cael gyrfaoedd llwyddiannus ledled gweddill y DU ac ar draws y byd. Mae’r rhanbarth yn elwa ar yr arfordir, y mynyddoedd a’r dinasoedd bywiog sy’n diwallu anghenion pob gweithred gymdeithasol – ac maent i gyd o fewn cyrraedd oherwydd y cysylltiadau teithio ardderchog a geir yn y rhanbarth.


Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o radiolegwyr yng Nghymru

Mae’r Academi yn gyfleuster blaenllaw sydd wedi ei ddylunio’n bwrpasol a bydd yn darparu hyfforddiant radioleg glinigol o’r safon uchaf mewn cyfleuster o’r radd flaenaf ac amgylchedd pwrpasol gydag ystafelloedd TG a labordai sgiliau gyda thechnoleg efelychu.

Bydd radiolegwyr ymgynghorol o bob cwr o Gymru yn hyfforddi drwy ddarparu darlithoedd, gweithdai a seminarau arwain. Byddant hefyd yn goruchwylio sesiynau cofnodi yn yr Academi. Ceir e-ddysgu ochr yn ochr ag addysgu didactig traddodiadol, adolygu archif lluniau a gwerslyfrau a hyfforddi ym maes efelychu. Addysgir hyfforddeion i gofnodi astudiaethau delweddu ar Systemau Archifo Lluniau a Chyfathrebu (PACS) yn yr Academi – goruchwylir hyn gan hyfforddwyr i ddechrau, gyda chofnodi annibynnol i ddilyn pan fo’n briodol.

Bydd y llwyth gwaith a deunydd addysgu yn cael eu darparu gan bob ysbyty addysgu a fydd yn caniatâu mynediad at amrywiaeth eang o achosion clinigol ym mhob is-arbenigedd. Mae gan yr Academi’r gallu i ddarparu addysgu a hyfforddi i ganolfannau ledled Cymru drwy gyfrwng cyfleusterau cynadledda fideo uwch-dechnoleg sy’n galluogi hyfforddeion a hyfforddwyr i gael a darparu hyfforddiant ym mhob canolfan yng Nghymru gan gefnogi hyfforddeion yng nghynlluniau de Cymru a gogledd Cymru.