lecture

Arholiadau Coleg

Mae’r arholiadau ar gyfer Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (FRCR) wedi eu rhannu rhwng Arholiadau FRCR Cyntaf ac Arholiadau FRCR Terfynol. Fel arfer mae’r Arholiad FRCR Cyntaf yn cael ei sefyll yn ystod y flwyddyn gyntaf o hyfforddiant ac mae’n canolbwyntio ar ffiseg radioleg ac anatomeg radioleg.

Rhennir yr Arholiad FRCR Terfynol yn Rhan A a Rhan B. Erbyn hyn y mae Rhan A yn arholiad dau bapur diwrnod cyfan. Gofynnir cwestiynau ateb gorau ynghylch amrywiaeth o arbenigeddau yn cynnwys radioleg gyhyrysgerbydol, pediatreg, gastroberfeddol, genito-wrinaidd, y frest a’r galon a Niwroradioleg. Rhennir Rhan B i adran gofnodi, sesiwn cofnodi cyflym ac arholiad llafar.

Ceir rhagor o wybodaeth am arholiadau’r RCR yma:

 https://www.rcr.ac.uk/clinical-radiology/clinical-radiology-examinations