Hyfforddiant Is-arbenigedd ST4-ST5/6

Mae gofyn i hyfforddeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant craidd ac wedi cyflawni FRCR i ganolbwyntio ar ennill profiad is-arbenigedd mewn arfer clinigol felly bydd hyfforddeion yn treulio mwy o amser ar leoliadau clinigol, a fydd yn cael eu cefnogi gan ddiwrnodau o hyfforddiant academi. Ffurfir hyfforddiant uwch gan leoliadau cylchdro chwe mis.

Bydd y nifer o ddiwrnodau Academi yn gostwng wrth i hyfforddiant gynyddu pan fydd canolbwyntio ar hyfforddi clinigol yn hollbwysig, serch hynny bydd hyfforddeion is-arbenigedd wedi cael hyfforddiant o flaen llaw yn yr Academi. Bydd gan uwch-hyfforddwyr swyddogaethau hyfforddi, goruchwylio a mentora.

Bydd grŵp dethol o hyfforddeion angen blwyddyn o hyfforddiant ST6 ychwanegol gan gynnwys y rhai sy’n arbenigo mewn radioleg ymyriadol fasgwlar, radioleg niwro-ymyriadol a meddygaeth niwclear.