Hyfforddiant Craidd ST1- ST3

Mae hyfforddiant craidd yn cwmpasu gwybodaeth radioleg gyffredinol hanfodol a sgiliau y mae’n rhaid i bob radiolegydd eu cael. Mae’n rhaid cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus cyn y gellir symud ymlaen i gael hyfforddiant is-arbenigedd. Mae cwricwlwm hyfforddiant craidd y RCR yn eang ac yn cwmpasu swmp mawr o wybodaeth a sgiliau, sy’n golygu mwy o bwyslais ar hyfforddiant craidd yr Academi. Bydd yr hyfforddeion yn elwa ar hyfforddiant dwys yr Academi wedi ei gyfuno â hyfforddiant prentisiaeth clinigol er mwyn cyflawni cymhwysedd ar lefel uwch yn gynnar yn y rhaglen.

Mae hyfforddi craidd yn cynnwys cylchdro tri mis yn ymwneud â phob dull ac is-arbenigedd ac mae’r hyfforddeion yn cyrraedd yr un cerrig milltir ar ddiwedd pob blwyddyn. Cyflawnir hyn drwy amserlen wythnosol sy’n cynnwys hyd at dri diwrnod o Academi.

table of course

Mae hyfforddiant dwys yr academi a geir yn ystod hyfforddiant craidd yn digwydd ar yr un pryd â’r cylchdroadau clinigol. Dyma ymagwedd unigryw a newydd tuag at hyfforddi ar ran Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru a bydd hyfforddeion yn cael hyfforddiant clinigol â phwyslais gan radiolegwyr yr Academi sy’n arbenigwyr yn eu meysydd i gyd-fynd â’r cylchdroadau tri mis sy’n hyfforddi is-arbenigedd.

Bydd sesiynau addysgu â phwyslais gan radiolegwyr yr Academi yn atodiad i ymlyniadau clinigol ac yn canolbwyntio ar wybodaeth glinigol, dehongli delweddau a sgiliau cofnodi sydd eu hangen ar gyfer y cylchdro is-arbenigedd craidd. Bydd yr hyfforddwyr hefyd yn arwain dysgu hunangyfeiriedig i baratoi ar gyfer sesiynau hyfforddi.

Ar gyfer y mwyafrif o Is-arbenigeddau 2, penodir radiolegwyr yr Academi i ddarparu diwrnod llawn o hyfforddiant is-arbenigedd.

Mae’r rhaglen graidd dri mis yn sicrhau bod yr hyfforddiant a geir yr un fath i bob hyfforddai drwy’r flwyddyn ac, yn bwysicach, yn digwydd ar yr un pryd â’r ymlyniad clinigol gan ganiatáu i hyfforddeion ganolbwyntio ar y wybodaeth glinigol a’r profiad perthnasol ar gyfer y cylchdro is-arbenigedd hwnnw. Mae hefyd yn caniatáu amser digonol i’r hyfforddwyr ynghyd â chyswllt agos i ddarparu asesiad ystyrlon a dibynadwy o berfformiad yr hyfforddai. Dyma ymagwedd unigryw tuag at hyfforddi a gynigir gan Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru.

Bydd sesiynau hyfforddi dan arweiniad ymgynghorwyr yr Academi yn cynnwys:

  • Addysgu – tiwtorialau, seminarau, adolygiadau achos rhyngweithiol a sesiynau cofnodi

  • Goruchwylio cofnodi Pelydr-X yn cynnwys gwirio cofnodion

  • Cofnodi, goruchwylio a gwirio delweddu trawstoriadol

  • Hyfforddi a goruchwylio uwchsain

  • Arsylwi a hyfforddi tîm amlddisgyblaethol (MDT)

  • Goruchwylio ymchwil ac archwilio

  • Goruchwylio efelychu

  • Cefnogi dysgu hunangyfeiriedig

  • Gofal bugeiliol

Rhagwelir y bydd y tîm hyfforddi yn yr Academi yn cynnwys Radiograffwyr a Sonograffwyr ochr yn ochr â Radiolegwyr.

Gosododd yr RCR gymwyseddau craidd y mae’n rhaid eu cyrraedd cyn diwedd blwyddyn tri – dyma’r sgiliau sylfaenol, heb ystyried is-arbenigedd, y dylai unrhyw gofrestrydd radioleg eu cyflawni.