Sicrwydd Ansawdd

Mae cyfadran hyfforddi Cymru wedi ymrwymo i werthuso a gwella hyfforddiant yn barhaol drwy gyfarfodydd llywodraethu addysgol a sesiynau adborth gyda hyfforddeion ynghylch unrhyw bryderon neu syniadau newydd yn ymwneud â darparu hyfforddiant. Gwerthusir y cynllun a’r addysgu hefyd drwy Arolwg Hyfforddi Cenedlaethol Y Cyngor Meddygol Cyffredinol, adborth ar ddiwedd lleoliadau ac adborth mewn sesiynau hyfforddi.