brecon beacons

Bannau Brycheiniog

Os ydych yn hoff iawn o’r awyr agored, byddwch wrth eich bodd ym Mannau Brycheiniog. Mae’r Parc Cenedlaethol ychydig dros awr o daith mewn car o’r Academi ac mae’n lleoliad trawiadol lle gallwch fwynhau’r golygfeydd tra byddwch chi’n cadw’n heini.

Mae’r Bannau yn ardal 520 o filltiroedd sgwâr – sy’n fwy neu lai yr un arwynebedd â system danddaearol Llundain – ac mae’n cynnwys pedair cadwyn o fynyddoedd ac yn gyrchfan i’r rhai anturus. Mae’r Bannau yn cynnig rhywbeth i bawb - cerddwyr, rhedwyr, beicwyr, beicwyr mynydd, marchogion a gwylwyr bywyd gwyllt.

Os nad oes awydd gennych i gael yr adrenalin i lifo yna ewch i ymweld â threfi hardd yr ardal ac ymlacio yn un o’r tafarndai neu dai bwyta seren Michelin.

Cewch ragor o wybodaeth am Fannau Brycheiniog yma