south wales valleys

Cymoedd De Cymru

Gyda’i mannau gwyrdd eang a bryniau a dyffrynoedd mae’r ardal hon yn enwog am ei threftadaeth gyfoethog ac mae’n cynnig yr amgylchedd gorau ar gyfer cerdded a beicio mynydd.

Mae’r ardal yn cynnig blas o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yn ogystal â bod yn gartref i nifer o amgueddfeydd a chestyll sydd ar stepen y drws.

Os ydych yn teimlo’n egnïol yna rhowch gynnig ar Lwybr Taf – sy’n ymlwybro o Gaerdydd i Aberhonddu ac mae’n un o’r llwybrau enwocaf yn yr ardal. Mae’n berffaith ar gyfer cerdded, rhedeg a beicio ac mae’n mynd drwy rai o safleoedd mwyaf hanesyddol Cymru.

Mae teithio o amgylch De Cymru o’r Cymoedd yn hawdd. Mae gan yr ardal rwydwaith trenau a bysiau gwych sy’n golygu y byddwch yn cyrraedd dinasoedd sy’n cynnwys Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe mewn dim amser. Mae’r rhwydwaith ffyrdd yn hygyrch iawn ac mae’r A470 a’r M4 gerllaw.

Cewch fwy o wybodaeth am Dde Cymru ar:

https://www.roughguides.com/destinations/europe/wales/south-wales/