Safleoedd Ysbytai

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Mae ysbyty Treforys yn ysbyty addysgu mawr gydag oddeutu 750 o welyau lle cynhelir tua 210,000 o archwiliadau’r flwyddyn. Cafodd ei ehangu’n ddiweddar ac mae yno gyfleuster Canolfan Addysg newydd. Mae ei wasanaethau yn cynnwys Trawma ac Orthopedeg, Damweiniau ac Achosion Brys, Uned Arennol, Llawdriniaeth cardio-thorasig, Llawdriniaeth fasgwlaidd, Llawdriniaeth gyffredinol, Meddygaeth gyffredinol, Niwroleg a Niwrolawdriniaeth, Uned Therapi Dwys Niwro a Chardio-thorasig, Llawdriniaeth Blastig, Llawdriniaeth Gên ac ar Wyneb ac Wroleg. Mae’n ganolfan atgyfeirio drydyddol ar gyfer llawdriniaeth bancreatig a Phlastig a Llosgiadau. Mae gennym ni gorff ymghynghorol o 19 o radiolegwyr cyffredinol (gyda diddordebau is-arbenigedd) a phedwar niwroradiolegydd. Ceir cydweithio ar draws safleoedd ysbytai eraill Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ar unrhyw adeg mae’n bosibl fod gennym hyd at 10 o hyfforddeion radioleg ar draws dau safle.

Mae ein cyfarpar yn cynnwys radiograffeg gyffredinol, dwy ystafell fflworosgopeg, dau sganiwr CT, sganiwr MRI, 5 ystafell uwchsain a meddygaeth niwclear. Mae gennym gyfres o ystafelloedd angiograffeg Fasgwlaidd penodedig. Defnyddir system FUJI PACS yn dilyn system PACS Cymru gyfan ar gyfer cofnodi diagnostig. Ceir digonedd o waith delweddu a chorff penodedig o ymgynghorwyr a radiograffwyr sy’n cyfrannu at addysgu ar bob cam o daith yr hyfforddeion drwy’r cynllun hyfforddi. Hefyd ceir digon o gyfleoedd i ddatblygu diddordebau arbenigol ac ennill sgiliau ymyriadol. Mae cyfnodau ar alwad yn brysur ac amrywiol ac mae hyfforddeion ar alwad o flwyddyn 2 yr hyfforddiant gan weithio ar system shifft rannol. Rydym yn gweithredu system ar alwad ‘dyletswydd’ (cyffredinolwyr a niwroradiolegwyr). Ar hyn o bryd, bydd y radiolegydd dyletswydd gyffredinol yn delio â cheisiadau ac ateb cwestiynau yn ystod y dydd a gyda’r nos (dros nos bydd pob sgan yn cael ei gontractio i ffynonellau allanol).

Tiwtor Coleg: 

Dr David Martin,  Ffôn 01792 702222 est 33691

Ysbyty Singleton

Mae ysbyty Singleton yn ysbyty addysgu gyda 550 o welyau. Lleolir canolfan ganser De Cymru yn Singleton a cheir gwasanaethau radiotherapi ac oncoleg yma. Mae ei wasanaethau hefyd yn cynnwys Meddygaeth gyffredinol, Offthalmoleg, Obstetreg a Gynaecoleg, Neonatoleg, Oncoleg, Uned y Fron ac Uned Meddyg Teulu aciwt. Lleolir 5 Ymgynghorydd yma gyda 7 Ymgynghorydd arall yn ymweld â’r ysbyty i ddarparu gwasanaeth delweddu is-arbenigedd Cyhyrysgerbydol (MSK), GI, Y Fron, Pen a Gwddf a Gynaecolegol. Mae’n cyfarpar yn cynnwys radiograffeg gyffredinol, 1 ystafell fflworosgopeg, 1 sganiwr CT, 1 sganiwr MRI 3T, 3 ystafell uwchsain a meddygaeth niwclear.

Lleolir ystafelloedd Uwchsain ychwanegol yn y Clinig cyn geni. Mae safle Singleton hefyd yn cwmpasu’r cyfleuster Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2 (ILS2).  Uned ymchwil yw hon wedi ei lleoli yng Ngholeg Meddygaeth Abertawe i hyrwyddo cynnydd iechyd a chynhyrchu ymchwil academaidd. Mae’n darparu’r cyfle delfrydol ar gyfer ymchwil radiolegol posibl i hyfforddeion radioleg yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym ni’n gweithredu system ddyletswydd prynhawn ac mae gwaith brys y tu allan i oriau dan ofal Treforys.

Tiwtor Coleg:  

Dr Peter Chowdhury, Ffôn 01792 205666 est 5963

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd

Mae Ysbyty Brenhinol Gwent sy’n cynnwys ysbyty Sain Gwynllyw, yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth mawr gydag oddeutu 850 o welyau. Mae’r ysbyty yn darparu gwasanaethau Meddygaeth Gyffredinol a Llawdriniaeth, Wroleg, Llawdriniaeth orthopedig, Llawdriniaeth Clust, Trwyn a Gwddf (ENT), Llawdriniaeth Offthalmig, Pediatreg, Obstetreg a Gynaecoleg. Ceir Adran Argyfwng brysur iawn a hefyd ar y safle ceir Uned Asesu Feddygol, Uned Llawdriniaeth Dydd, Uned Gofal Dwys, ac Uned Dibyniaeth Fawr.  

Mae cyfarpar yr adran yn cynnwys 7 ystafell radiograffeg gyffredinol yn defnyddio Radiograffeg Ddigidol (DR) a Radiograffeg Gyfrifiadurol (CR), 2 ystafell sgrinio ac 1 ystafell IR. Ceir 2 sganiwr CT Aml-sleis yn cynnwys CT y Galon a Sganiwr MRI 1.5 tesla. Ceir 9 ystafell Uwchsain, cyfleuster meddygaeth niwclear â’r gallu i ddefnyddio CT yn cynnwys camera gama “Hawk-eye”. 

Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni

Mae ysbyty Nevill Hall yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth modern a agorwyd ym 1969 gyda 500 o welyau. Mae’r rhan fwyaf o arbenigeddau meddygol a llawdriniaethol yn cael eu cynrychioli ar y safle. Mae’r Adran Argyfwng yn brysur ac yn darparu derbyniadau aciwt ar gyfer meddygaeth lawdriniaethol, orthopedeg a phedriateg. 

Mae cyfarpar y brif adran yn cynnwys 4 ystafell radiograffeg gyffredinol, 3 Radiograffeg Ddigidol (DR) ac 1 Radiograffeg Gyfrifiadurol (CR), 1 ystafell sgrinio, 4 ystafell Uwchsain ar wahân, mamograffeg gyda stereo digidol wedi cysylltu ag ystafell Uwchsain Mamograffeg. Cyfleuster meddygaeth niwclear â’r gallu i ddefnyddio CT, yn cynnwys camera gama “Hawk-eye”. Mae gan yr adran hefyd sganiwr CT a sganiwr MRI 1.5T.   

Mae’r system PACS (Fuji Synapse) a ddefnyddir ar draws yr ymddiriedolaeth yn weithredol yma.

Tiwtoriaid Coleg: 

Ysbyty Brenhinol Gwent - Dr Joseph Hamill
Nevill Hall - Dr Nick Cross
Ffôn 01633 234234

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Ysbyty Athrofaol Cymru

Ysbyty addysgu mawr gyda 1080 o welyau yw Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae wedi ei leoli oddeutu 2.5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Mae’n darparu pob gwasanaeth yn cynnwys llawdriniaeth gardiothorasig drydyddol, trawsblannu arennol a mêr esgyrn, niwrolawdriniaeth a phob gwasanaeth pediatreg yn cynnwys llawdriniaeth drydyddol, gofal dwys pediatreg a neonatoleg. Ar y safle ceir Ysbyty Plant Cymru (CHfW) a agorwyd ym mis Ebrill 2015. Mae’r ysbyty newydd ennill statws prif ganolfan drawma De Cymru. Yma ceir yr adran argyfwng brysuraf y tu allan i Lundain.

Mae’r cyfarpar yn cynnwys ystafelloedd radiograffeg gyffredinol, 8 ystafell uwchsain, 3 sganiwr CT aml-ganfodydd, 2 gyfres o ystafelloedd fasgwlaidd pwrpasol ac mae un arall yn cael ei hadeiladu. Mae’r adran MR yn cael ei hailwampio er mwyn gosod 3 sganiwr MR, yn cynnwys un 3T. Ceir 2 gamera gama dau ben i weithredu tomograffi cyfrifo allyriadau ffoton sengl (SPECT) ac uned CT tomograffeg allyriadau positron (PETCT) gyda cyclotron. Y system PACS a ddefnyddir ar hyn o bryd yw Agfa ond bydd yn newid i Fuji i ddilyn PACS Cymru gyfan erbyn 2019. System arddweud G2.

Ysbyty Plant Cymru – 1 sganiwr MR calibr llydan, 1 ystafell Uwchsain, 1 ystafell sgrinio a 2 ystafell ffilm blaen radiograffeg ddigidol (DR).

 

Ysbyty Llandochau, Penarth

Mae hwn yn ysbyty â 500 o welyau wedi ei leoli 6 milltir i’r gollewin o Gaerdydd. Mae ganddo ganolfan Orthopedig a chanolfan y Galon o’r radd flaenaf. Mae’n darparu pob gwasanaeth cyffredinol yn ogystal â’r gwasanaethau arbenigol uchod. 

Mae’r cyfarpar yn cynnwys ystafelloedd radiograffeg gyffredinol yn y brif adran a’r ganolfan orthopedig, 2 ystafell sgrinio, 1 sganiwr CT aml-ganfodydd, 3 cyfres o ystafelloedd Uwchsain, 2 gamera gama dau ben newydd i weithredu tomograffi cyfrifo allyriadau ffoton sengl (SPECT), uned y fron a sganiwr MR 1.5 T orthopedig.

Tiwtor Coleg:

Dr Luke Wheeler: Ffôn 029 2074 3027

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty’r Tywysog Siarl:

Mae gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg 500 o welyau ac mae’n cyflawni oddeutu 120,000 o archwiliadau’r flwyddyn.

Mae gennym ni sefydliad ymgynghorol o 22 o Radiolegwyr Ymgynghorol a sefydliad staff iau o 6 StRs sy’n gweithio mewn cylchdro dros y safleoedd.

Mae’r cyfarpar yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cynnwys radiograffeg gyffredinol, fflworosgopeg gyffredinol, fflworosgopeg ddigidol ar gyfer gweithdrefnau ymyriadol ac angiograffeg, uwchsonograffi yn cynnwys Doppler lliw a phwer, delweddu niwclear a CT. Mae’r technegau arbenigol a berfformir yn cynnwys ystod eang o weithdrefnau ymyriadol.

Mae cyfarpar yr adran yn cynnwys radiograffeg gyfrifiadurol, PACS ac archifo digidol sy’n caniatáu cofnodi copi meddal. Ceir 1 ystafell fflworoscopeg at ddiben cyffredinol gyda braich C. Hefyd ceir cyfres o ystafelloedd fasgwlaidd digidol penodedig, mamograffeg gonfensiynol a chyfres o dair ystafell Uwchsain, 2 sganiwr CT GE Evolution, 2 MRI Siemens AERA a chamera gama dau ben.

Mae gan Ysbyty’r Tywysog Siarl oddeutu 430 o welyau, ac mae’n darparu gwasanaethau argyfwng aciwt a gwasanaethau meddygol a llawdriniaethol dewisol. 

Gofal Dwys a Gofal y Galon; gwasanaethau obstetreg dan arweiniad ymgynghorydd gydag Uned Gofal Arbennig Babanod, meddygaeth bediatreg cleifion preswyl dan arweiniad ymgynghorydd ac uned Damweiniau ac Achosion Brys brysur. Ceir saith theatr lawdriniaethau. Mae’r ysbyty hefyd yn darparu gwasanaethau y geg, yr ên ac ar wyneb is-ranbarthol ac ystod lawn o wasanaethau a ddarperir yn lleol a gwasanaethau arbenigol yn ymweld â chleifion allanol.

Mae gan Ysbyty’r Tywysog Siarl 2 ystafell Radiograffeg Gyfrifiadurol (CR) ac 1 ystafell Radiograffeg Ddigidol (DR). Ceir 5 cyfres o ystafelloedd Uwchsain gweithredol yn yr adrannau Cyffredinol a chynenedigol. 2 sganiwr CT (Toshiba/1 Aquilon 1) ac 1 MRI (Toshiba Atlas).

Tiwtor Coleg:

Dr Grant Griffiths, Ffôn 01685 728594 Est 3640