Cysylltu

Manylion cyswllt

Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru, Parc Busnes Pencoed, Pencoed, CF35 5HY
Ffôn: +44 (0)1656 334160
E-bost:  imaging.academy@wales.nhs.uk


Cyfarwyddiadau

Lleolir yr Academi oddi ar gyffordd 35 yr M4. Rhowch y cod post CF35 5HY yn eich offer llywio â lloeren.

Ar y ffordd

O’r M4 tua’r gorllewin:

  • Gadewch y draffordd ar gyffordd 35 ac ewch i’r lôn dde.

  • Gadewch y gylchfan ar y bedwaredd allanfa (cyn ichi ail ymuno â’r draffordd).

  • Gadewch y gylchfan fach ar yr allanfa gyntaf.

  • Ewch heibio’r rhwystr gwyn i ben y ffordd – mae Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ar y dde.

 

O’r M4 tua’r dwyrain:

Gadewch y draffordd ar gyffordd 35

  • Gadewch y gylchfan ar yr ail allanfa

  • Gadewch y gylchfan fach ar yr allanfa gyntaf

  • Ewch heibio’r rhwystr gwyn i ben y ffordd – mae Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ar y dde.

 

Ar y Trên

Mae’r orsaf drên agosaf ym Mhencoed sydd 20-25 munud ar droed o’r Academi:

  • Cerddwch i’r de-orllewin ar Penybont Road tuag at Hendre Road

  • Ewch ymlaen i Heol Llangrallo

  • Trowch i’r chwith i mewn i Felindre Road

  • Ar y gylchfan trowch i’r dde i ymuno â’r A473

  • Ar y gylchfan nesaf trowch i’r chwith (allanfa gyntaf – tuag at McDonalds)

  • Ar y gylchfan fach trowch i’r chwith (allanfa gyntaf)

  • Ewch heibio’r rhwystr gwyn i ben y ffordd – mae Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ar y dde.

Mae’r dolenni isod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cynllunio eich taith:

Trafnidiaeth Cymru: https://tfwrail.wales/

National Rail: http://www.nationalrail.co.uk/

 

Ar y Bws

Mae’r safle bws agosaf 500 o droedfeddi o’r adeilad – ‘Gwasanaethau Pencoed [E]’ sy’n darparu cysylltiadau rhwng Abertawe a Chaerdydd ar yr X10.

Mae’r dolenni isod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cynllunio eich taith:

Bws Caerdydd

Stagecoach: 

Cardiff Bus: http://www.cardiffbus.com/english/servicelisting.shtml

Stagecoach: https://www.stagecoachbus.com/