Cwrs Pelydr-X o’r frest dau ddiwrnod

Cwrs Pelydr-X o’r frest dau ddiwrnod

Mae croeso i feddygon ar bob lefel (FY1, FY2, CT, SpR, GPST, Meddyg Teulu, SAS ac Ymgynghorwyr) ac o bob arbenigedd, ni waeth pa mor hyderus ydych chi wrth ddehongli delweddau pelydr-x o’r frest.

GWYBODAETH AM Y CWRS:

Pelydrau-X o’r frest yw’r archwiliad diagnostig radiograffig sy’n cael eu gwneud amlaf. Gall y gwaith o’u dehongli ymddangos i fod yn hawdd, ond mewn gwirionedd mae angen gwybodaeth drylwyr o egwyddorion anatomegol, patholegol a radiograffig. Bydd y cwrs dau ddiwrnod hwn yn eich helpu i fireinio ar eich dull systematig o adolygu delweddau pelydr-X o’r frest.  Dan sylw yn y cwrs hwn bydd patholeg amrywiol a fydd yn gwella eich hyder wrth ddehongli delweddau pelydr-X o’r frest o ddydd i ddydd ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer arholiadau.

Bydd pobl yn cael eu rhoi mewn grwpiau yn ôl faint o brofiad sydd gyda nhw mewn dehongli CXR, o adolygu achosion sylfaenol i ddehongli uwch. 

Credydau Datblygu Proffesiynol Parhaus: Bydd 12 o gredydau DPP Categori 1 yn cael eu dyfarnu.

Wedi ei drefnu gan:     

Dr Aleksander Marin - BIP Caerdydd a’r Fro
Dr Grant Griffiths - BIP Cwm Taf Morgannwg
Dr Tim Pearce - BIP Cwm Taf Morgannwg
Dr Tishi Ninan - BIP Bae Abertawe

OFRESTRWCH YMAC