Archwilio’r Academi
Mae'r Academi yn ganolfan hyfforddi ac atgyfeirio.
Cyfleuster hyfforddi ac atgyfeirio yw’r Academi ac nid yw’n derbyn cleifion sy’n galw i mewn. Ni ellir gwneud apwyntiadau drwy’r Academi, ond gallai rhai cleifion gael eu cyfeirio at yr Academi gan eu meddyg teulu neu ysbyty lleol.
Digwyddiadau a chyrsiau i ddod
Bydd yr Academi yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyrsiau hyfforddi yn ystod y flwyddyn a bydd y wybodaeth ddiweddaraf i’w chael yma.
Wedi'i achredu gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr
Mae Rhaglen Hyfforddi Radiolegwyr Clinigol Cymru wedi ei achredu gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) ac mae’n darparu rhaglen hyfforddi strwythuredig dros bum mlynedd, sy’n arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT). Fel rhan o’r rhaglen darperir hyfforddiant strwythuredig ar gyfer cyflawni Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (FRCR).
Croeso i Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd yr Academi â chyllid o £3.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru a bydd y cyfleuster blaenllaw ac o’r radd flaenaf sydd wedi ei ddylunio’n bwrpasol yn diwallu’r angen cynyddol i hyfforddi radiolegwyr ymgynghorol ledled y DU. Mae Academïau Radioleg wedi eu sefydlu yn rhannau eraill y DU, ac maen nhw’n cael eu hystyried yn fodelau hyfforddi radioleg llwyddiannus yn genedlaethol, a bydd Academi Cymru yn darparu addysg o’r radd flaenaf er mwyn ateb y gofynion cynyddol y mae’r proffesiynau delweddu yn eu hwynebu.