hire the academy

Ein cyfleusterau

Mae’r Academi’n cynnig cyfleusterau rhagorol a phan nad yw’n cael ei defnyddio ar gyfer hyfforddiant mae ar gael i’w llogi ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd. Mae'r Academi yn cynnwys ystafelloedd o wahanol feintiau, gan gynnwys darlithfa 110 sedd o'r radd flaenaf. Gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, mae gan y ddarlithfa sgriniau taflunio, tra bod Hybiau Arwyneb wedi'u gosod ym mhob ystafell gyfarfod ac ystafell ddosbarth.

Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwych i’r Academi sydd wedi ei lleoli oddi ar gyffordd 35 o’r M4. Mae digon o leoedd parcio ar gyfer 60 o geir, felly mae’n lle delfrydol ar gyfer hyfforddiant, cyfarfodydd, cyrsiau a digwyddiadau.

Mae gan yr Academi gysylltiadau â darparwyr arlwyo lleol a gellir trefnu eu gwasanaethau ymlaen llaw cyn digwyddiadau. Gellir darparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol a bydd y prisiau’n amrywio yn dibynnu ar nifer y cyfranogwyr a’ch dewis o fwydlen. Gofynnwch am y gwasanaethau arlwyo pan fyddwch yn gwneud eich trefniadau llogi ac fe wnawn ni roi unrhyw wybodaeth angenrheidiol i chi i’ch galluogi i drefnu’r gwasanaeth yn uniongyrchol.

Ar gyfer yr holl ymholiadau ynghylch llogi a’r costau cysylltwch â: imaging.academy@wales.nhs.uk +44 (0)1656 334160

lecture theatre

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

Capasiti: 110 Cynllun: ar ffurf theatr Lleoliad: y llawr gwaelod
conference room

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

Capasiti: 50 Cynllun: amrywiol Lleoliad: y llawr cyntaf (lifft ar gael)
boardroom

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

Capasiti: 15 Cynllun: Ystafell y bwrdd Lleoliad: y llawr cyntaf (lifft ar gael)
meeting room

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

Capacity: 10 Layout: Boardroom Location: First floor (lift access available)