
Cwrs MRI Cardiaidd
Cwrs MRI Cardiaidd ar y 5ed o Chwefror 2020 o 09:00 – 17:00
Bwriad y cwrs yw datblygu sgiliau arolygu sy’n angenrheidiol ar gyfer hyfforddiant CMR craidd, a bydd yn cynnig profiad ymarferol o arolygu CMR ar weithfannau Osirix. Bydd ymgeiswyr yn cael budd o gasgliad mawr o achosion patholeg sy’n gyffredin mewn astudiaethau CMR.
- Yn agored i Radiolegwyr a Chardiolegwyr dan hyfforddiant
- 20 lle ar gael
- Gweithfannau Unigol
- Gall achosion gyfri tuag at Ardystiad Lefel 1
- Bydd pob cyfranogwr yn adolygu o leiaf 50 achos
- Cinio a lluniaeth yn gynwysedig
Cost:
£100 i weithwyr dan hyfforddiant GIG Cymru
£150 i weithwyr dan hyfforddiant sydd ddim gyda GIG Cymru
Trefnwyr:
Adrian Ionescu
Martyn Heatley
Tishi Ninan
Llety: Mae’r Academi gyferbyn â’r Premier Inn lleol, sydd gyda bwyty. Yn ogystal mae yna Travelodge ym Mhencoed, sydd yn 5 munud i ffwrdd mewn car. Dewis arall fyddai i chi aros yng Ngwesty a Spa Best Western Heronston, sydd 10 munud i ffwrdd mewn car, neu yn Abertawe neu Gaerdydd sydd o fewn hanner awr.
Cofrestrwch yma:https://forms.gle/ZS45ekzrgMWH34oR6