Image
Hyfforddi'r Hyfforddwr

Hyfforddi'r Hyfforddwr

30th Rhagfyr 2022, 12:00

Mae Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru yn cynnig lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar gwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr ISC Medical

  • Bydd yn mynd i’r afael â modelau a damcaniaethau hanfodol yn ymwneud â hyfforddi oedolion. 
  • Mae’n cydymffurfio'n llawn â gofynion o ran portffolio a’r Dystysgrif CCT gyda 12 pwynt/awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. 
  • Fideos esboniadol a sgyrsiau ysbrydoledig sy'n ysgogi'r meddwl.
  • Holiaduron ac ymarferion sy’n datgelu eich personoliaeth. 
  • Mynediad am 90 diwrnod i'r 18 modiwl ar-lein.
  • Mae hefyd yn cynnwys gweminar byw a rhyngweithiol ar-lein sy’n para am ddwy awr.

Rhaid bod ymgeiswyr yn gweithio yn GIG Cymru a bod â rôl sy'n gysylltiedig â Delweddu Diagnostig gyda diddordeb mewn addysg a hyfforddiant.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, ewch i wefan ISC Medical www.medical-interviews.co.uk/product/ttt-online-module

Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb gofrestru drwy'r ffurflen hon: https://forms.gle/o96X8XFzaDXAXaBx6

Ar ôl cofrestru'n llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu hanfon at ISC Medical, ac fe fyddan nhw’n creu eich cyfrif ac yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

 

Nodwch fod y cwrs yn cael ei ddarparu gan ddarparwr allanol, ac felly ni fydd ar gael yn Gymraeg.