Y dechnoleg ddiweddaraf yn yr adeilad..
Mae gan yr Academi gyfleusterau rhagorol a phan nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddi, maent ar gael i’w llogi ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd. Mae yma ystafelloedd o wahanol feintiau gan gynnwys darlithfa o’r radd flaenaf â 100 o seddi ynddi. Ceir y dechnoleg ddiweddaraf ym mhob rhan o’r adeilad, gan gynnwys sgriniau taflunio yn narlithfa’r Academi, ac mae ‘Surface Hubs’ ar waith ym mhob un o’r ystafelloedd cyfarfod a’r dosbarthiadau.
Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwych i’r Academi sydd wedi ei lleoli oddi ar gyffordd 35 o’r M4. Mae digon o leoedd parcio ar gyfer 60 o geir, felly mae’n lle delfrydol ar gyfer hyfforddiant, cyfarfodydd, cyrsiau a digwyddiadau.
Mae gan yr Academi gysylltiadau â darparwyr arlwyo lleol a gellir trefnu eu gwasanaethau ymlaen llaw cyn digwyddiadau. Gellir darparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol a bydd y prisiau’n amrywio yn dibynnu ar nifer y cyfranogwyr a’ch dewis o fwydlen. Gofynnwch am y gwasanaethau arlwyo pan fyddwch yn gwneud eich trefniadau llogi ac fe wnawn ni roi unrhyw wybodaeth angenrheidiol i chi i’ch galluogi i drefnu’r gwasanaeth yn uniongyrchol.
Ar gyfer yr holl ymholiadau ynghylch llogi a’r costau cysylltwch â: imaging.academy@wales.nhs.uk +44 (0)1656 334160