Image
FRCR

Cwrs Adolygu Rhithwir Dau Ddiwrnod 2b FRCR

20th Chwefror 2025, 9:00

20 Chwefror 2025, 9:00

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y dyddiadau ar gyfer Cwrs Adolygu FRCR IIb wedi'u cadarnhau, ac mae cofrestriadau ar gyfer 2025 bellach ar agor.

Dyddiadau'r Cwrs:
Dydd Iau, 20 a Dydd Gwener, 21 Chwefror 2025
Dydd Llun, 8 a Dydd Mawrth, 9 Medi 2025
Trefnydd y Cwrs: Dr Tishi Ninan
Pris y Cwrs: £400
Cofrestriad:
https://forms.office.com/e/P55qQXyTNh



Byddwn ni’n defnyddio platfform a-lein o’r enw Collective Minds i gynnal rhan ysgrifenedig y cwrs, ac mae’r platfform hwnnw’n cynnwys nodweddion manipwleiddio delweddau PACS a’r gallu i sgrolio. Bydd ymgeiswyr yn cael mynediad at dri set o Brofion Adrodd i ymarfer, ynghyd â 3 set o achosion hir yn ystod y cwrs. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddatrys yr achosion hyn a chyflwyno eu hatebion ar y platfform ar-lein fel y bydden nhw yn yr arholiad ‘go iawn’. Bydd o leiaf un set o atebion i achosion hir yn cael ei farcio gan arholwyr profiadol, er mwyn rhoi adborth i chi ar eich perfformiad.

Bydd Adolygiad gan y Tiwtor o bob set a phob Viva yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams, er mwyn efelychu’r arholiad FRCR 2B ar-lein ‘go iawn’. Bydd hyn yn galluogi ymgeiswyr i ymgyfarwyddo â’r broses a meithrin hyder yn defnyddio’r platfform. 

Mae’r cwrs deuddydd sy’n efelychu’r arholiad FRCR 2B yn cynnwys y canlynol:

  • Adrodd cyflym gyda marcio electronig. Achosion hir yn efelychu arholiadau Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, fydd yn cael eu marcio gan arholwyr.
  • Sesiynau adborth penodedig er mwyn adolygu’r achosion a’r cynllun marcio.
  • Sesiynau viva ar-lein dros Microsoft Teams gyda dau arholwr ymhob sesiwn.
  • Mae gan yr arholwyr brofiad helaeth o arholiadau efelychol, gan gynnwys rhai arholwyr sy’n Gymrodyr o goleg Brenhinol y Radiolegwyr.
  • Cyngor ar dechneg Viva gydag adborth gan gyn-arholwyr Coleg Brenhinol y radiolegwyr.
     

Gofynion y cwrs

Adrodd am brofion ar Collective Minds

1. Cyfrifiadur neu Mac neu liniadur, gyda chysylltiad band eang da, ynghyd â llygoden. Bydd hyn yn ddigon ar gyfer y rhan hon o’r cwrs.
2. Lawrlwythwch Google Chrome fel bod nodweddion Collective Mind yn gweithio ar eu gorau yn y rhan ysgrifenedig.
3. Darparwch y cyfeiriad e-bost a fydd yn derbyn gohebiaeth yn ystod y cwrs.

Gofynion technegol ar gyfer VIVA

1. PC neu MAC - gliniadur/cyfrifiadur fyddai orau, gyda sgrin fawr fel y gallwch chi adolygu’r delweddau. Gallwch chi ystyried cysylltu’r cyfrifiadur ag ail sgrin os bydd angen.
2. Cysylltiad band eang da, gyda chysylltiad cebl Ethernet fyddai’r gorau, ond mae angen cysylltiad diwifr o 2 mbps o leiaf.
3. Lawrlwythwch a mewnosod Microsoft Teams ar y cyfrifiadur rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio ar y cwrs.
4. Rhowch y cyfeiriad e-bost sydd wedi ei gysylltu â’r cyfrif Microsoft Teams.
5. Ategion sydd eu hangen: llygoden (gydag olwyn sgrolio os yw’n bosibl), set pen da gyda meicroffon/lleiswyr, a chamera fel bod modd i ymgeiswyr ac arholwyr weld ei gilydd.

Bydd y cysylltiad yn cael ei brofi yn ystod sesiynau penodol a gynhelir gan drefnwr y cwrs cyn iddo ddechrau.