Cwrs pelydr-x y frest 2 ddiwrnod
Cwrs pelydr-x y frest 2 ddiwrnod
22 a 23 Medi 2022
Mae croeso i feddygon ar bob lefel (FY1, FY2, CT, SpR, GPST, Meddyg Teulu, SAS ac Ymgynghorwyr) ac o bob arbenigedd, ni waeth pa mor hyderus ydych chi wrth ddehongli delweddau pelydr-x o’r frest. Mae croeso hefyd i uwch-radiograffwyr ac ymarferwyr uwch sydd â diddordeb mewn CXR.
GWYBODAETH AM Y CWRS:
Pelydrau-X o’r frest yw’r archwiliad diagnostig radiograffig sy’n cael eu gwneud amlaf. Gall y gwaith o’u dehongli ymddangos i fod yn hawdd, ond mewn gwirionedd mae angen gwybodaeth drylwyr o egwyddorion anatomegol, patholegol a radiograffig. Bydd y cwrs dau ddiwrnod hwn yn eich helpu i fireinio ar eich dull systematig o adolygu delweddau pelydr-X o’r frest. Byddwn yn trafod patholeg amrywiol a fydd yn gwella eich hyder wrth ddehongli delweddau pelydr-X o’r frest o ddydd i ddydd ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer arholiadau.
Bydd pobl yn cael eu rhoi mewn grwpiau yn ôl faint o brofiad sydd gyda nhw mewn dehongli CXR, o adolygu achosion sylfaenol i ddehongli uwch.
AGENDA:
DIWRNOD 1 – ar-lein
DIWRNOD 2 – wyneb yn wyneb yn yr Academi
COST: £220.00 Bydd hyn yn cynnwys lluniaeth a chinio ar y ddau ddiwrnod.
Credydau Datblygu Proffesiynol Parhaus: Bydd 12 o gredydau DPP Categori 1 yn cael eu dyfarnu.
TREFNWYD GAN:
Dr Aleksander Marin – BIP Caerdydd a’r Fro
Dr Grant Griffiths – BIP Cwm Taf Morgannwg
Dr Tim Pearce – BIP Cwm Taf Morgannwg
Dr Tishi Ninan - BIP Bae Abertawe
TALU AM Y CWRS: Ni fyddwn yn ystyried eich bod wedi cofrestru’n llawn am y cwrs nes i ni dderbyn tâl gennych chi. Bydd y manylion talu cyflawn yn cael eu danfon atoch unwaith i ni dderbyn eich ffurflen gofrestru.
COFRESTRU: Cwblhewch y ffurflen i gofrestru ar gyfer y cwrs.
https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLScl1_h1qshBIfyzNVuoUvH1Tu35cb1d9wj9vmJWQbVv38A4dQ/viewform?usp=sf_link