prostate

Mae ADGC yn gweithio ochr yn ochr â NIPSB a Prostate Cancer UK.


Mae Prostate Cancer UK wedi gosod nod o sicrhau bod pob dyn gydag achos posib o ganser y prostad yn gallu cael sgan mpMRI cyn cael biopsi erbyn 2020.

Mae Prostate Cancer UK yn barod yn cydweithio ag ymddiriedolaethau ysbytai yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn cyrraedd y nod hwn. Fodd bynnag, mae’r gwaith o gyflwyno sgan MRI cyn biopsi yn eang wedi bod yn llawer arafach yng Nghymru oherwydd y diffyg adnoddau a chymhlethdod y dechneg. Mae Prostate Cancer UK wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn goresgyn y problemau hyn a chynnig datrysiadau.

Mae Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Strategaeth y Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol a Prostate Cancer UK, fel aelodau o Is-grŵp Llwybr Diagnostig Canser y Prostad, er mwyn safoni hyfforddiant ac ymarfer ym maes diagnosteg canser y prostad ledled Cymru ac edrych ymlaen at sefydlu rhaglen hyfforddiant mpMRI bwrpasol yng Nghymru.

Fel rhan o’r cydweithrediad hwn, mae Prostate Cancer UK a Report and Image Quality Control (RAIQC) yn cynorthwyo clinigwyr ar draws y DU trwy blatfform hyfforddiant rhyngweithiol rhad ac am ddim sy’n helpu radiolegwyr i ddatblygu eu sgiliau dehongli sganiau mpMRI ar y prostad. Mae’r system yn hygyrch iawn, ac mae’n efelychu systemau y mae radiolegwyr yn eu defnyddio bob dydd. Mae’n galluogi radiolegwyr i ymarfer eu sgiliau adrodd yn rheolaidd, a'i nod yw gwella eu harbenigedd yn raddol. Bwriad y platfform, sy’n darparu adborth cychwynnol gan wroradiolegwyr arbenigol, yw magu hyder wrth benderfynu peidio â chynnal biopsi ar rai dynion, a gwella’r gallu i adrodd ar achosion cymhleth.
 

Cliciwch y ddolen am fanylion llawn y prosiect a’r cydweithrediad:
https://prostatecanceruk.org/about-us/projects-and-policies/mpmri
 

Cliciwch y ddolen ar gyfer y modiwl e-ddysgu sydd wedi ei lansio gan Prostate Cancer UK er mwyn helpu radiolegwyr i fynd i’r afael â hanfodion cynnal sgan mpMRI cyn biopsi:
https://prostatecanceruk.org/for-health-professionals/online-learning/courses-and-modules/courses/all-courses/mpmri-before-biopsy
 

Cliciwch y ddolen i greu cyfrif a defnyddio platfform RAIQC i gael hyfforddiant rhyngweithiol rhad ac am ddim.
https://www.raiqc.com/sign-in/?next=/

 

Prostate Cancer UK is a registered charity in England and Wales (1005541) and in Scotland (SC039332). Registered company 02653887.