principality stadium

Caerdydd

Yn ôl arolwg diweddar, mae trigolion Caerdydd ymysg y rhai hapusaf a mwyaf bodlon yn Ewrop ac mae hynny oherwydd yr amgylchedd, y mannau gwyrdd, glanweithdra a’r gweithgareddau cymdeithasol a gynigir.

Mae Caerdydd, prif ddinas Cymru a’r ddinas fwyaf yn y wlad wedi ail-ddyfeisio ei hun dros yr ugain mlynedd diwethaf drwy fuddsoddi parhaol, gan ganolbwyntio ar seilwaith o chwaraeon, diwylliant a hamdden. Mae gan y ddinas gymeriad unigryw sy’n cynnig ansawdd bywyd ardderchog i drigolion ac ymwelwyr.

Mae’n ddinas wych os ydych yn hoff iawn o natur gan fod ganddi fwy o fannau gwyrdd fesul person nag unrhyw ddinas graidd yn y DU. Mae’n hawdd mynd o amgylch y ddinas sydd â nifer o barciau gan gynnwys Parc Bute a Pharc y Rhath gyda mynyddoedd i’r gogledd a’r arfordir i’r de.

Mae’r ddinas ei hun â’i chastell amlwg yn ganolbwynt ar gyfer siopa gyda’r dewis o ganolfan Dewi Sant, Yr Ais a’r Arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd. Ni fyddwch yn brin o bethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw gan fod cymaint o siopau annibynnol gwych, caffis, bariau a brandiau yn y ddinas.

Mae’r ddinas yn cynnig nifer o leoliadau chwaraeon a diwylliant cenedlaethol yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Stadiwm y Principality. Hefyd y mae Bae Caerdydd sy’n gartref i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig cyfle i fyw ger y glannau.

Mae Caerdydd yn ddinas hygyrch â chysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd ac awyr da. Gellir cyrraedd Llundain ar drên mewn ychydig dros ddwy awr, ac mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi ei leoli yn agos i’r ddinas a gallwch gyrraedd Maes Awyr Bryste mewn llai nag awr. Mae teithio o amgylch Caerdydd yn hawdd iawn erbyn hyn oherwydd y cynllun nextbikeUK.