Abertawe a Gŵyr
Yn y parc, ar y traeth neu ger y ddinas, mae gan Abertawe bopeth gydag arfordir trawiadol a chanol dinas fywiog.
Enillodd Abertawe deitl y ddinas harddaf yn y DU yn ddiweddar ac mae’n gyrchfan wych i drigolion ac ymwelwyr wrth i’r ddinas fanteisio ar ei lleoliad arfordirol trawiadol. Ar garreg y drws ceir llu o atyniadau o amgueddfeydd i orielau celf, theatrau ac atyniadau chwaraeon. Mae canol y dref yn cynnig cyfle ichi siopa am frandiau ac o bosib, pethau unigryw. Os am fwyta allan yna ceir digon o ddewis o fariau, caffis, tai bwyta a bistros. Mae Canol Dinas Abertawe yn cynnig dewis gwych o leoliadau â bwyd o safon ar gyfer pob chwaeth a phoced.
Mae canol y ddinas yn cynnig bwydydd egsotig o bedwar ban byd yn ogystal â bwyd traddodiadol Cymru.
Mae’n hawdd teithio o amgylch Abertawe ac mae’n hawdd cyrraedd y ddinas ar y ffordd, ar y trên neu mewn awyren. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd oddeutu awr i ffwrdd mewn car a cheir trenau rheolaidd yn ôl a blaen rhwng Abertawe a Paddington yn Llundain, De Cymru a gweddill y DU. Ceir hefyd wasanaeth bysiau National Express sy’n teithio’n rheolaidd i Gaerdydd a Bryste o orsaf fysiau’r Cwadrant.