Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru – Ein Model Hyfforddi
Mae symud at fodel Academi ar gyfer hyfforddiant radioleg yng Nghymru yn gyffrous iawn.
Mae’r model hyfforddi Academi wedi bod yn llwyddiannus yn y tair Academi yn Lloegr a sefydlwyd dros 11 o flynyddoedd yn ôl. Bydd Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru yn ymdrechu i gynnwys eu nodweddion gorau a dysgu o’u profiadau nhw er mwyn ychwanegu at y cynllun presennol.
Bydd amser hyfforddai’r Academi yn cael ei rannu rhwng hyfforddiant yn yr Academi a lleoliadau clinigol.
Datblygwyd addysgu’r academi a’r lleoliadau clinigol i ategu’r cynllun sefydledig a llwyddiannus ac i wneud y gorau o’r cyfleoedd hyfforddi drwy fanteisio i’r eithaf ar yr amgylcheddau dysgu rhagorol ac amrywiol a’r hyfforddwyr eithriadol yn ne Cymru.
Model prentisiaeth yw’r hyfforddiant ac ychwanegir model Academi newydd ato a fydd yn darparu hyfforddiant yn canolbwyntio ar dechnegau, sgiliau ac agweddau proffesiynnol y disgwylir i radiolegwyr ymgynghorol feddu arnynt.
Bydd hyfforddeion yn cael eu haddysgu yn unol â Chwricwlwm Cenedlaethol Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) gyda’r bwriad o ennill gwybodaeth graidd hanfodol ac i lwyddo yn arholiadau’r RCR i gyflawni cymrodoriaeth. Bydd hyfforddeion hefyd yn cael budd o hyfforddiant ym maes efelychu a dysgu hunangyfeiriedig a fydd yn ffurfio elfennau hanfodol hyfforddiant Academi.
Mae’r Academi hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil clinigol ac addysgiadol, yn enwedig i hyfforddeion sy’n dilyn mentrau ymchwil.
Rhennir hyfforddiant yn dair blynedd o hyfforddiant Craidd ym mhob disgyblaeth radioleg glinigol a dwy flynedd wedyn o hyfforddiant is-arbenigedd. Darperir chweched flwyddyn ychwanegol o hyfforddiant i’r rhai â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym meysydd is-arbenigedd megis radioleg ymyriadol fasgwlaidd a niwrofasgwlaidd a meddygaeth niwclear.