lecturing

Asesiadau Clinigol

Mae pob asesiad clinigol a chynnydd yn cael ei gofnodi a’i gadw ar yr e-portfolios Cenedlaethol. Rhennir yr asesiadau yn gategorïau eang, sy’n cynnwys dehongli delweddau (miniIPX), gweithdrefnau ymarferol (DOPS), sgiliau addysgu, archwilio a sgiliau cyfathrebu (gwerthusiadau 360°). Mae’r asesiadau hyn yn cael eu monitro gan oruchwylydd addysgol yr hyfforddai ac yn cael eu trafod yn yr adolygiad blynyddol o ddilyniant cymhwysedd (ARCP) pan asesir pob agwedd ar berfformiad a chynnydd yr hyfforddai.