Rhaglen Addysgu FRCR
Ceir rhaglen addysgu sefydledig yr FRCR a ddarparwyd gan Gynllun Radioleg De Cymru a bydd radiolegwyr ymgynghorol a ffisegwyr meddygol sy’n hyfforddi yn defnyddio cyfleusterau ardderchog yr Academi gan gynnwys y ddarlithfa, ystafelloedd seminar, ystafelloedd dosbarth â gweithfannau a’r ystafell Mac. Hyd y rhaglenni addysgu yw 6-12 mis ac maent wedi eu cynllunio ar gyfer ennill gwybodaeth graidd a chwblhau arholiadau FRCR. Darperir y rhaglenni addysgu ar ddiwrnodau gwahanol:
-
ST1 FRCR Rhan 1 rhaglenni Anatomeg a Ffiseg dydd Iau trwy’r dydd
-
ST2-3 FRCR Rhan 2a rhaglen dydd Mawrth am
-
ST3-4 FRCR Rhan 2b rhaglen dydd Mercher pm
Mae’r rhaglen yn cynnwys tiwtorialau adolygu, arholiadau ffug ac astudio preifat i baratoi ar gyfer yr arholiadau FRCR. Bydd yr hyfforddeion yn cael radiolegwyr FRCR penodedig o’r Academi sy’n arbenigo ym mhob elfen o arholiad yr FRCR.