Yr Ardal Leol
Mae’r Academi Ddelweddu Genedlaethol wedi ei lleoli yng nghanol de-ddwyrain Cymru 25 munud o’r brif ddinas, Caerdydd, a 35 munud o Abertawe a enillodd y teitl ‘y ddinas harddaf yn y DU’ yn ddiweddar. Mae’n hawdd cyrraedd yr Academi mewn car, ar y trên ac ar y bws sy’n caniatáu i hyfforddeion fyw ar draws yr ardal lle bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw. Mae de-ddwyrain Cymru yn cynnig y cwbl. Mae’n ardal sy’n llawn hanes a diwylliant, ac fe’i hystyrir yn un o’r lleoedd gorau i fyw ynddi yn y DU o safbwynt ansawdd bywyd. Mae’r ardal yn cynnig rhywbeth i bawb gyda’i thraethau syfrdanol, dinasoedd bywiog, trefi a phentrefi hardd ac ardaloedd gwyrdd â phrydferthwch naturiol. Rydym ni wedi cynllunio’r canllaw hwn i roi blas o’r hyn y mae’r rhanbarth yn ei gynnig i hyfforddeion.