Women being scanned

Claf

Cyfleuster hyfforddi ac atgyfeirio yw’r Academi ac nid yw’n derbyn cleifion sy’n galw i mewn.

Uwchsain - Ni ellir gwneud apwyntiadau drwy’r Academi, ond gallai rhai cleifion gael eu cyfeirio at yr Academi gan eu meddyg teulu neu ysbyty lleol.

Parcio – Mae mannau parcio ar gael o flaen yr Academi ac maen nhw am ddim. Hefyd mae nifer o fannau parcio i’r anabl wedi eu nodi. 

Man Aros – Mae gan yr Academi fan aros bach, felly os ydych chi am ddod â pherthynas neu ffrind gyda chi, yna cyfyngwch y nifer i un os gwelwch yn dda.

Di-wifr - Mae’r Academi yn darparu mynediad i rwydwaith di-wifr am ddim.

Lluniaeth – Nid oes lluniaeth ar gael yn yr Academi ar hyn o bryd. Awgrymir i ymwelwyr ddod â lluniaeth gyda nhw.

I gael cyfarwyddiadau a manylion cyswllt cliciwch yma.