Gyrfaoedd i radiolegwyr ymgynghorol yng Nghymru

Mae gobeithion gyrfa yn y DU i radiolegwyr yn ardderchog, ac mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru. Pa un ag ydych chi eisiau dilyn gyrfa mewn addysg feddygol, datblygu eich portffolio ymchwil neu symud ymlaen i fod yn arbenigwr yn eich maes, fe ddewch o hyd i ganolfan radioleg yng Nghymru sy’n gallu cynnig y cyfuniad perffaith a chydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Mae llawer o radiolegwyr a hyfforddwyd yng Nghymru wedi ymgartrefu yma am y rhesymau hyn ac mae’r rhai sy’n symud i ganolfanau eraill yn y DU a ledled y byd yn sicr bod yr hyfforddiant a gawsant wedi rhoi seiliau cadarn i’w galluogi nhw i gwblhau a datblygu eu gyrfaoedd.

Mae llawer o’n hyfforddeion yn ymgartrefu yng Nghymru yn sgil y cyfleoedd gyrfa ardderchog a gynigir. Gwelwn hyn yn dystiolaeth gadarnhaol o ansawdd eu bywyd yn yr ardal a’r amgylchedd gwaith a gynigir.