Cwrs Adolygu 2b FRCR

Cwrs Adolygu 2b FRCR

Mae hwn yn gwrs deuddydd sy’n efelychu’r arholiad FRCR 2B.


Byddwn ni’n defnyddio platfform a-lein o’r enw Collective Minds i gynnal rhan ysgrifenedig y cwrs, ac mae’r platfform hwnnw’n cynnwys nodweddion manipwleiddio delweddau PACS a’r gallu i sgrolio. Bydd ymgeiswyr yn cael mynediad at dri set o Brofion Adrodd i ymarfer, ynghyd â 3 set o achosion hir yn ystod y cwrs. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddatrys yr achosion hyn a chyflwyno eu hatebion ar y platfform ar-lein fel y bydden nhw yn yr arholiad ‘go iawn’. Bydd o leiaf un set o atebion i achosion hir yn cael ei farcio gan arholwyr profiadol, er mwyn rhoi adborth i chi ar eich perfformiad.

Bydd Adolygiad gan y Tiwtor o bob set a phob Viva yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams, er mwyn efelychu’r arholiad FRCR 2B ar-lein ‘go iawn’. Bydd hyn yn galluogi ymgeiswyr i ymgyfarwyddo â’r broses a meithrin hyder yn defnyddio’r platfform. 

Mae’r cwrs deuddydd sy’n efelychu’r arholiad FRCR 2B yn cynnwys y canlynol:

  • Adrodd cyflym gyda marcio electronig. Achosion hir yn efelychu arholiadau Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, fydd yn cael eu marcio gan arholwyr.
  • Sesiynau adborth penodedig er mwyn adolygu’r achosion a’r cynllun marcio.
  • Sesiynau viva ar-lein dros Microsoft Teams gyda dau arholwr ymhob sesiwn.
  • Mae gan yr arholwyr brofiad helaeth o arholiadau efelychol, gan gynnwys rhai arholwyr sy’n Gymrodyr o goleg Brenhinol y Radiolegwyr.
  • Cyngor ar dechneg Viva gydag adborth gan gyn-arholwyr Coleg Brenhinol y radiolegwyr.
     

Trefnydd y Cwrs:

Dr Tishi Ninan - Abertawe Bro Morgannwg UHB

Cofrestrwch Yma